Psalms 7

Mae Duw yn gyfiawn

Salm alar gan Dafydd. Canodd hi i'r Arglwydd am Cwsh, un o lwyth Benjamin.

1O Arglwydd, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches.
Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi,
2rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo'n ddarnau,
ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub.
3O Arglwydd, fy Nuw, os ydy e'n wir –
os ydw i'n euog o wneud drwg,
4os ydw i wedi bradychu fy ffrind,
(ie fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr!)
5yna gad i'r gelyn ddod ar fy ôl i, a'm dal i.
Gad iddo fy sathru dan draed,
a'm gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr.

 Saib
6Côd, Arglwydd! Dangos dy fod ti'n ddig,
a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn!
Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i,
a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
7Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;
eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
8Mae'r Arglwydd yn barnu'r cenhedloedd!
Achub fy ngham, O Arglwydd,
achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.
9O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod,
stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud.
Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.
10Mae'r Duw mawr fel tarian i mi;
mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn.
11Mae Duw yn farnwr cyfiawn,
ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio
12wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod.
Mae'n rhoi min ar ei gleddyf,
yn plygu ei fwa ac yn anelu.
13Mae'n paratoi arfau marwol
ac yn defnyddio saethau tanllyd
i ymladd yn eu herbyn.
14Edrychwch! Mae'r dyn drwg wrthi eto!
Mae'n feichiog o ddrygioni,
ac yn geni dim byd ond twyll!
15Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill,
bydd yn syrthio i'w drap ei hun!
16Bydd y drwg mae'n ei wneud yn ei daro'n ôl;
a'i drais yn ei fwrw ar ei dalcen.
17A bydda i'n moli'r Arglwydd am fod mor gyfiawn,
ac yn canu emyn o fawl i enw'r Arglwydd Goruchaf.
Copyright information for CYM